Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar
Blant sy'n Derbyn Gofal
DYDD MERCHER 25 CHWEFROR 2015
12.00–13.30
Aelodau'r Cynulliad yn bresennol:
David Melding AC, y Dirprwy Lywydd – Cadeirydd
Joyce Watson AC
Tom Davies – staff cymorth Angela Burns AC
Fiona Openshaw – staff cymorth Joyce Watson AC
George Rudebusch – staff cymorth David Melding AC - cofnodwr
Yn bresennol:
Menna Thomas – Uwch-swyddog Ymchwil a Pholisi, Barnardo's
Hywel Ap Dafydd – Swyddog Polisi, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
Cafwyd ymddiheuriadau gan:
Deborah Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Voices From Care
Rhian Williams, Cynorthwyydd Personol / Ysgrifennydd
Gweinyddol, Voices From Care
CROESO A CHYFLWYNIAD GAN Y CADEIRYDD
Agorodd DM y cyfarfod a chroesawodd y rhai oedd yn bresennol.
COFNODION
Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mai 2014 a chawsant eu cymeradwyo.
MATERION YN CODI
Nid oedd unrhyw faterion yn codi.
CAMFANTEISIO'N RHYWIOL AR BLANT YN ROTHERHAM
Cyflwynodd DM yr adroddiad gan yr Athro Alexis Jay OBE ar Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant yn Rotherham; cafodd nodyn briffio ar yr adroddiad ei gynnwys yn agenda'r cyfarfod. Mae'r adroddiad yn datgelu canfyddiadau o 1,400 amcangyfrifedig o blant y camfanteisiwyd yn rhywiol arnynt rhwng 1997 a 2013. Roedd y nodyn briffio hefyd yn rhoi crynodeb o ddadl seneddol a gynhaliwyd ar 2 Medi 2014 ynghylch yr adroddiad.
Nodwyd fod yr adroddiad hwn a'r ddadl ddilynol yn golygu bod pobl yn cymryd sefyllfa plant sy'n derbyn gofal o ddifrif. Mae'r dystiolaeth ddiweddar a ddaeth i law yn bryderus, yn arbennig o ystyried y dechreuodd y broblem hon gael mwy o sylw yn y 1950au a'r 1960au.
UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd trafodaeth ynghylch y cyfarfod sydd i ddod yn yr haf ar gyfer y grŵp trawsbleidiol. Awgrymodd DM wahodd cynrychiolwyr o'r ymchwiliad, gyda barnwr o bosibl, i ddod i'r cyfarfod er mwyn hwyluso'r drafodaeth ynghylch adroddiad Rotherham. Cytunodd JW y byddai gwneud hyn hefyd yn apelio'n gyffredinol i Aelodau'r Cynulliad. Nid yn unig y byddai hyn yn cynyddu'r presenoldeb yn y cyfarfod, ond gallai cyfarfod o'r fath hefyd annog trafodaeth neu gwestiynau i weinidogion ynghylch y mater hwn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Awgrymodd MT hefyd fod y grŵp yn ystyried creu siarter. Cytunodd DM, gan ychwanegu y dylai'r siarter fod yn gynhwysfawr. Cyfrannodd JW y dylai adroddiadau – da a drwg – ynghylch plant sy'n derbyn gofal gael eu cynnwys. Nod y siarter fyddai cyflwyno rhywbeth i'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n rhoi cyd-destun i'r materion ynghylch plant sy'n derbyn gofal ac yn ychwanegu at y mater. Drwy ddangos sbectrwm llawn o ganlyniadau plant sy'n derbyn gofal yn ddiweddarach mewn bywyd, byddai'r grŵp yn cyflwyno rhianta corfforaethol heb ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
Nid yw dyddiad y cyfarfod nesaf wedi'i benderfynu, ond mae wedi'i drefnu dros dro ar gyfer haf 2015.